Deng mlynedd ar hugain o dawelwch, deng mlynedd ar hugain o fyw gyda rhywbeth nad oedd yn fai imi.

Ond, er hynny roeddwn i yn beio fy hun a phawb arall yn anuniongyrchol. I’r rhai sydd yn darllen hwn rwy’n teimlo ei bod yn bwysig i chi wybod a deall waeth pa mor ddrwg yr ydych yn teimlo, wnaiff pethau ddim gwella eu hunain ac nid chi fydd yr unig un i ddioddef, fe fydd y bobl rydych chi’n eu caru yn dioddef hefyd. Rwy’n gwybod oherwydd rwyf wedi bod yno, a nhw hefyd.

Roeddwn i bob amser yn meddwl, waeth beth sy’n digwydd fyddai ddim fyth yn dweud dim, dim ond y cywilydd ynghylch beth fyddai pobl yn ddweud amdana’i, mor frwnt, ffiaidd a dienaid. Ond, daeth cyfnod lle nad oeddwn yn gallu ymdopi bellach, ar ôl 13 mlynedd yn y fyddin, sawl taith yng Ngogledd Iwerddon, y Gwlff etc ac yna blynyddoedd fel plismon. Doedd codi a chario ymlaen ddim yn gweithio bellach.

Roedd pethau’n troi’n hunllef bob dydd ac yn atgof o beth oedd fy hunllef i, a phan fu farw fy mam, sylweddolais nad oedd gen i atgofion plentyndod. Doeddwn i’n cofio dim ac eithrio’r pethau drwg oedd wedi digwydd imi. Roeddwn wedi treulio cymaint o amser yn cau’r gorffennol i ffwrdd doedd dim i’w gofio ond y fideo oedd yn chwarae yn fy meddwl trwy gydol fy mywyd ers y diwrnod hwnnw. Yr atgof o beth roedd wedi’i wneud imi.

Dyna pryd y dechruodd bywyd fynd o chwith; doeddwn i  ddim yn gallu bod yn dad i’m plant nac yn ŵr i’m gwraig ac roeddwn yn teimlo drws yn cau. Cerddais allan ar ôl 15 mlynedd o briodas – codi un bore a phenderfynu gadael.

Roeddwn wedi gwahanu am ddwy flynedd a dechreuais fynd i seisynau cynghori oherwydd doeddwn i ddim yn gallu ymdopi gyda’r teulu yr oeddwn wedi eu gadael. Ond doeddwn i ddim yn gallu dweud wrthyn nhw am fy nghamdriniaeth, roedd gen i deimladau hunanladdiol. Ysgrifennais lythyrau ac roedd gen i botel o chwisgi Regimental ers 1992. Y cynllun oedd cymryd gorddos, fe fuaswn yn ffonio’r gwaith i ddweud fy mod yn sâl, a threulio dyddiau yn gwylio teledu a gwneud dim.

Roedd y dyddiau i ffwrdd o’r gwaith yn ofnadwy ar adegau ond roedd yna ddyddiau pan oedd fy ffrindiau yn gefnogol. Wrth edrych yn ôl rwyf yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nhw ac am fy ngynnal trwy ddyddiau du.

Ym mis Rhagfyr 2001  cyflwynais fy hun fel goroeswr/dioddefwr.

Roedd sawl peth yn digwydd ar y pryd, delio gyda fy ngwaith a nifer o broblemau’n berthynol i bedoffilia. Fedra’i ddim mynegi mewn geiriau sut deimlad oedd cael dweud wrth rhywun. O’r diwedd roeddwn wedi dweud wrth rhywun, yna fy ngwraig ac yna fy ngoruchwyliwr – dim ar yr un pryd, ond wrth y bobl oedd angen gwybod. Doedd hynny ddim yn hawdd.

Rwy’n argyhoeddedig mod i wedi dechrau colli fy meddwl. Doeddwn i ddim yn adnabod fy hun, ac roeddwn yn argyhoeddedig bod pawb yr oeddwn yn eu cyfarfod yn bedoffiliaid. Yna roeddwn yn ail fyw fy hunllef bob dydd. Roedd fy mywyd ar stop ac yna derbyniais sesiynau cynghori yn y gweithle ond doedden nhw ddim yn gallu rhoi’r cynghori arbenigol yr oeddwn ei angen. Roedden nhw’n rhywun oedd yn gwrando, roeddwn yn cael sesiwn o dair awr y tro bob wythnos tan Ebrill 2002.

Yna darganfyddais Survivors UK.  Sut mae modd disgrifio Survivors UK heb fod yn ddiduedd? I ddechrau, mae hynny’n amhosibl. Ond beth am ddweud os ydych nawr yn cofio pethau nad oeddech yn eu cofio o’r blaen a’r pethau yr oeddech yn benodol eisiau eu cofio. Os oeddech eisiau deall beth oedd wedi digwydd i chi a gwybod nad eich bai chi oedd hynny. Os oeddech eisiau ysgwydd i grio arni, rhywun i ddal eich llaw, rhywun i roi sicrwydd i chi, rhoi braich o’ch cwmpas. Ond yn bennaf, rhywun i ddeall a gwybod sut rydych yn teimlo. Rhywun i ddymchwel yr holl rwystrau yr ydych wedi eu creu dros y blynyddoedd i chwilio am gysur, neu i guddio’r ffaith eich bod wedi cael eich cam-drin.

Fe fydd Survivors UK yn dymchwel y rhwystrau ac yn eich helpu i’w hail adeiladu. Mae’n swnio fel hysbyseb yn ydy e? Ond na, mae’n ffaith  ac yn wir, oherwydd rwyf wedi bod yno. Felly os ydych yn meddwl am ddod ymlaen yna gwnewch yr alwad ffôn yna, newidiwch eich bywyd, cymrwch beth rydych yn ei haeddu, RHYDDID.

Does dim pwynt imi ddweud y bydd popeth yn diflannu ar ôl cynghori oherwydd wnaiff hynny ddim digwydd; hyd yn oed nawr fe fyddaf yn cael dyddiau o deimlo’n isel, ond mae yna fwy o ddyddiau da. Mae’r Nadolig yn Nadolig unwaith eto ac fe wnaeth y bachgen bach y tu mewn imi wenu am y Nadolig cyntaf iddo gofio.

Dydw i ddim yn ysgrifennu hwn er fy lles fy hun nac er budd Survivors UK, ond i’r rhai sydd yn darllen hwn sydd wedi dod at Survivors UK yn chwilio am rhywfaint o anogaeth.

Heddiw, rwyf gartref gyda fy nheulu unwaith eto, rwy’n gallu teimlo cariad ac angerdd fel nag erioed o’r blaen yn fy mywyd.

Diolch i chi  Survivors UK.

Stuart

Leave Website

Helpline closure_11Dec19

Previous Next
Close
Test Caption
Test Description goes like this